£450,000
4 Bedroom House
Glaslwyn, Warfield Road, Caernarfon, Gwynedd, LL55
First listed on: 08th January 2024
Nearest stations:
- Llanfairpwll (5.8 mi)
- Bodorgan (7.3 mi)
- Bangor (Gwynedd) (7.7 mi)
Interested?
Call: See phone number 01286 677 774
Property Description
Tenure: Freehold
Cyfle prin i brynu ty sylweddol yn sefyll ar ei ben ei hun ac wedi'i leoli mewn ardal boblogaidd iawn yng Nghaernarfon. Mae'n sefyll ar lain da o dir gyda gerddi sefydledig, garej a digon o le i barcio sawl car. Mae’r ty'n gyfelus i ganol y dref, archfarchnadoedd ac ysgolion, a chyda golygfa dda o'r Fenai. Wedi ei adeiladu yn 1989, mae'r eiddo wedi cael ei foderneiddio a'i gynnal a'i gadw'n ofalus ac mae'n cynnig cartref cysurus i deulu. Tu mewn, cewch eich croesawu i gyntedd helaeth a WC oddi arno. Mae gan y lolfa braf dan nwy ac mae'r gegin a'r ystafell fwyta eang yn addas ar gyfer prydau teuluol ac i gymdeithasu. Yn ogystal, ceir ystafell aml-bwrpas gyda chypyrddau a sinc, lle i beiriant golchi a sychwr, a drws trwodd i'r garej. Mae'r gegin gyda chypyrddau safonol a thopiau marmor drostynt, popty dwbl, meicrodon, hob, oergell/ rhewgell a pheiriant golchi llestri. Mae gan y gegin a'r ystafell fwyta wres o dan y llawr. Mae yma bedair ystafell wely dda ar y llawr cyntaf gydag ystafell ymolchi a chawod. Mae golygfa hyfryd o'r Fenai o'r brif ystafell wely sydd hefyd ag en-suite modern a gwres o dan y llawr. Oddi allan, yn ogystal a'r llefydd parcio a'r garej (sydd a golau/plygiau a drws trydan) mae lawnt eang o flaen y ty, patio cysgodol i'r ochr, lle eistedd yn rhan uchaf yr ardd gyda golygfa wych o'r Fenai, a gardd liwgar wedi hen sefydlu yn y cefn. Mae ffenestri a drysau uPVC trwy'r ty ynghyd a system wresogi nwy. Yn fyr felly, mae Glaslwyn yn dy gyda chyntedd braf, WC, lolfa, cegin, ystafell fwyta, ystafell aml bwrpas, landing, ystafell ymolchi/cawod a phedair llofft (un gydag en-suite). Mae Caernarfon yn dref brysur gyda digon o siopau, archfarchnadoedd, ysgolion cynradd ac uwchradd, canolfan hamdden, harbwr/marina, theatr, dewis da o gaffis a bwytai, ac ardaoedd hyfryd i hamddena ar lan y Fenai. Mae'n hwylus i deithio i ddinas prifysgol Bangor, yr A55, Ynys Mon a Pharc Cenedlaethol Eryri. Mae’r dref yn ganolfan sy'n denu twristiaid ac yn ganolfan i swyddfeydd Cyngor Sir Gwynedd. Mae amrywiaeth o siopau annibynnol difyr o fewn muriau'r hen dref a gweithdai'r Cei Llechi gerllaw yn cynnig profiad arbennig i ymwelwyr yn ogystal a holl siopau arferol y stryd fawr, i gyd o fewn tafliad carreg i'r castell hynafol sy'n dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg (un o Safleodd Treftadaeth y Byd).
Council Tax Band: F
Shared Ownership: No
Useful Statistics In Your Area
We have collected some useful information to help you learn more about your area and how it may affect it's value. This could be useful for those already living in the area, those considering a move or a purchase of a buy-to-let investment in the area.
Property Location
Property Street View
Price History
Listed prices are those submitted to us and may not reflect the actual selling price of this property.
Date | History Details |
---|---|
09/01/2024 | Property listed at £450,000 |
Property Floorplans
Video Tour
Mortgage Calculator
Calculate the cost of a mortgage for your new home based on available data.
Get an Instant Offer
Looking to sell quickly. OneDome's Instant Offer service can get you a cash offer within 48 hours and money in the bank in as little as 7 days. Giving you speed and certainty.
Find the best Estate Agents
Need to sell and want the best agent? Compare your local agents from thousands nationwide. Get no-obligation quotes immediately just by entering your postcode.